Croeso

 
2% of survey complete.
Diolch am roi o'ch amser i lenwi'r arolwg hwn.

Dylai gymryd tua 15 munud. Gallwch gadw eich atebion a dychwelyd i’r arolwg rywbryd eto.

Mae Comisiynydd Dioddefwyr Cymru a Lloegr yn gweithredu’n annibynnol ar y Weinyddiaeth Gyfiawnder, y Swyddfa Gartref, yr heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron a’r llysoedd i hybu hawliau dioddefwyr a sicrhau eu bod yn cael eu trin yn deg ac yn gywir gan y system cyfiawnder troseddol.

Mae'n hollbwysig ein bod yn clywed gan ddioddefwyr am eu profiadau o'r system cyfiawnder troseddol a’r Cod Dioddefwyr. Dyma eich cyfle chi i ddweud eich dweud. Drwy rannu eich adborth, gall y Comisiynydd Dioddefwyr helpu i sicrhau bod dioddefwyr yn y dyfodol yn cael y cymorth a’r canlyniadau cyfiawnder sydd eu hangen arnynt. Hoffem glywed gan unrhyw un sydd wedi dioddef trosedd a/neu wedi riportio trosedd ers 1 Ionawr 2022 (hy yn ystod y tair blynedd ddiwethaf).

Byddwn yn dadansoddi’r wybodaeth rydych chi’n ei rhoi ac yn cyhoeddi adroddiad ar sail hynny, a fydd yn ychwanegu at y wybodaeth ymchwil am brofiadau dioddefwyr o’r system cyfiawnder troseddol. Mae’r arolwg yn ddienw, ond ar y diwedd rydyn ni’n gofyn a ydych chi’n rhoi caniatâd i ni ddefnyddio eich dyfyniadau dienw yn ein hadroddiad. Rydyn ni hefyd yn gofyn a fyddech chi’n fodlon rhoi cyfeiriad e-bost i Swyddfa’r Comisiynydd Dioddefwyr gysylltu â chi ar gyfer ymchwil yn y dyfodol, er enghraifft i gael cyfweliad. Byddwch yn ddienw yn ein hadroddiadau (ni fydd modd eich adnabod ohonynt), p’un ai eich bod yn dewis rhoi eich manylion cyswllt i ni ar ddiwedd y gyfres hon o gwestiynau ai peidio.

Darllenwch y Polisi Preifatrwydd hwn sy’n egluro sut mae Swyddfa'r Comisiynydd Dioddefwyr yn casglu, yn defnyddio ac yn rhannu gwybodaeth bersonol.

Rydyn ni’n awyddus i glywed gan bawb sy’n dymuno llenwi’r arolwg hwn, yn ogystal â’r rhai oedd wedi tynnu eu cefnogaeth i ymchwiliad neu erlyniad yn ôl.

Os ydych chi’n rhoi cymorth i rywun sydd wedi bod yn ddioddefwr ac a fyddai’n hoffi ymateb ond sydd ddim yn gallu gwneud hynny oherwydd rhwystr iaith, diffyg mynediad i’r rhyngrwyd neu rwystrau eraill, mae croeso i chi lenwi’r arolwg gyda nhw.

Neu gallwch chi gysylltu â TONIC (y sefydliad ymchwil cymdeithasol sy’n cynnal yr arolwg hwn ar ein rhan) ar engage@tonic.org.uk os hoffech chi gael copi caled o’r arolwg neu lenwi’r arolwg dros y ffôn.

Drwy glicio’r botwm “Nesaf” isod, rydych chi’n rhoi eich caniatâd i gymryd rhan yn yr arolwg hwn.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am yr ymchwil, cysylltwch â ni ar research@victimscommissioner.org.uk

T